logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Mae gobaith sicr yn fy nghalon i

Mae gobaith sicr yn fy nghalon i,
Sy’n rhoddi nerth i ddioddef dyddiau du;
Wrth weled mymryn o d’ogoniant yma nawr
amheuaeth ffodd o’m tu:
Maddeuwyd im pob pechod cas;
Mae gobaith nefoedd ynof fi!
Fy mraint, fy ngalwad a’m llawenydd pur
Yw gwneud d’ewyllys Di.

Mae gen i obaith cryf sy’n ’sgafnu maich
Yn gysur cadarn rhag anobaith llym,
Pan fydd y byd fel pydew dwfn
a minnau’n brudd,
Bydd Iesu’n agos im!
Ei lais sy’n dweud, ‘Bydd gryf, bydd ddewr,’
Dyw’r dioddefiadau ond am awr,
Ei freichiau oesol sydd yn hafan im
Ar lwybr tua’r nef.

Mae gen i obaith digyfnewid byw,
Edrychaf fry, nid diwedd im yw’r bedd,
Daw diwrnod perffaith,
gogoneddus, heb ei ail,
Pan gaf i weld ei wedd!
Dim tristwch mwy, na phoen na chur,
Dim hiraeth mwy amdano Ef.
Gorfoledd fydd yn llifo yn fy mron
A nghartre’ fydd y Nef.

There is a hope: Stuart Townend & Mark Edwards, Cyfieithiad Awdurdodedig: Gwenda Jenkins
Hawlfraint© ac yn y cyfieithiad hwn 2007 Thankyou Music/Adm. gan worshiptogether.com songs
ac eithrio DU ac Ewrop, gwein. gan Kingsway Music tym@kingsway.co.uk Defnyddir trwy ganiatâd

PowerPoint