Mae fy enaid am ehedeg
O’r anialwch tywyll du
I ardaloedd perffaith gariad,
Mynwes T’wysog nefoedd fry;
Gweld ei wedd, profi ei hedd,
Nefoedd yw tu yma i’r bedd.
Os edrychaf tua’r gogledd,
Edrych eilwaith tua’r de,
Nid wy’n canfod dim i’w brisio
Megis ei ffyddlondeb E’;
Pleser llawn, yma gawn,
Pur, sylweddol, fore a nawn.
Afon bywyd sydd yn rhedeg
Dan ei orsedd bur i maes,
Ffrydiau’n golchi ac yn cannu
Y rhai duaf trwy ei ras;
Fe ddaw ‘nghyd, fyrdd ryw bryd
I’w foliannu o eithaf byd.
William Williams, Pantycelyn
(Y Llawlyfr Moliant Newydd: 449)
PowerPoint