logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Mae enw Calfari

Mae enw Calfari,
Fu gynt yn wradwydd mawr,
Yn ngolwg f’enaid i
Yn fwy na’r nef yn awr:
O! ddedwydd fryn, sancteiddiaf le,
Dderbyniodd ddwyfol waed y ne’!

‘R wy’n caru’r hyfryd awr,
Mi gara’r hyfryd le,
Mi garaf bren y groes
’Fu ar ei ysgwydd E:
Wel dyma ’Nuw a dyma ’Mhen,
Ac oll a feddaf, ar y pren!

Ffarwél, deganau byd,
Mae’ch tegwch hyfryd iawn
Oll yn diflannu ‘nghyd
Ar Galfari brynhawn:
Mae da, a dyn, er maint eu grym,
Yn ngŵydd y groes yn mynd yn ddim.

William Williams, Pantycelyn

PowerPoint