logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Mae cariad Crist uwchlaw pob dawn

Mae cariad Crist uwchlaw pob dawn,
pwy ŵyr ei lawn derfynau?
Ni chenfydd llygad cerwb craff
na seraff ei fesurau.

Mae hyd a lled ei gariad ef
uwch nef y nef yn llifo,
a dyfnach yw na llygredd dyn,
heb drai na therfyn arno.

Mae’r hyd a’r lled a’r dyfnder maith
mewn perffaith gydweithrediad
i’w gweld yn amlwg ar y bryn,
a’r gwaed yn llyn o gariad.

ROBERT AP GWILYM DDU, 1766-1850

(Caneuon Ffydd 300)

PowerPoint