Mae carcharorion angau
yn dianc o’u cadwwynau,
a’r ffordd yn olau dros y bryn
o ddyfnder glyn gofidiau;
cyhoedder y newyddion
a gorfoledded Seion,
mae’r Iesu ar ei orsedd wen,
ac ar ei ben bo’r goron!
Cynefin iawn â dolur
fu’r Iesu yn fy natur,
gogoniant byth i’w enw ef
am ddioddef dros bechadur:
yn addfwyn dan yr hoelion,
â dwyfol waed ei galon
fy mhrynu wnaeth Tywysog nen,
ac ar ei ben bo’r goron!
Dilynaf yn ei lwybrau,
a chanaf yn fy nagrau,
mae mwy na digon yn yr Iawn
i faddau’n llawn fy meiau;
er dued yw fy nghalon
mae’r Iesu’n dal yn ffyddlon:
Eiriolwr yw tu hwnt i’r llen,
ac ar ei ben bo’r goron!
DYFED, 1850-1923
(Caneuon Ffydd 353)
PowerPoint