logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Mae arnaf eisiau sêl

Mae arnaf eisiau sêl
i’m cymell at dy waith,
ac nid rhag ofn y gosb a ddêl
nac am y wobor chwaith,
ond gwir ddymuniad llawn
dyrchafu cyfiawn glod
am iti wrthyf drugarhau
ac edrych arna’i erioed.

CHARLES WESLEY 1707- 91 efel. DAFYDD JONES. 1711-77

(Caneuon Ffydd 752)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 27, 2015