logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Mae addewidion melys wledd

Mae addewidion melys wledd
yn gyflawn ac yn rhad
yn dy gyfamod pur o hedd,
tragwyddol ei barhad.

‘Rwyf finnau yn dymuno dod
i’r wledd ddanteithiol, fras,
ac felly mi gaf seinio clod
am ryfedd rym dy ras.

O rhwyma fi wrth byst dy byrth
i aros tra bwyf byw,
i edrych ar dy wedd a’th wyrth
a’th foli di, fy Nuw.

Tydi fo ‘nghymorth parod iawn
i’m cynnal ar fy nhaith,
a thi dy hun fo ‘nhrysor llawn
i dragwyddoldeb maith.

THOMAS JONES, 1756-1820

(Caneuon Ffydd 169)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 11, 2015