logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Llifa ataf, fôr tragywydd

Llifa ataf, fôr tragywydd,
gyr dy ddyfnder oddi draw;
cuddia’r ogofeydd a’r creigiau
sy’n fy mygwth ar bob llaw:
sŵn dy ddyfroedd yw fy ngobaith
pan ddymchwelont, don ar don,
ac nid oes ond ti a’m cyrraedd
ar y draethell unig hon.

Gwelaf dros dy lanw nerthol
oleuadau’r tiroedd pell
lle mae Duw yn troi machludoedd
yn foreau gwynion, gwell:
datod di fy ofnau trymion
sy’n fy nal â chadwyn gref,
ac anturiaf ar dy fynwes
hollalluog tua thref.

SIMON B. JONES, 1894-1964  Defnyddiwyd drwy ganiatâd Jon Meirion Jones

(Caeuon Ffydd: 186)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • January 28, 2016