logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Llefara, Iôr, nes clywo pawb

Llefara, Iôr, nes clywo pawb
dy awdurdodol lais,
a dyro iddynt ras i wneud
yn ôl dy ddwyfol gais.

Goresgyn, â galluoedd glân
dy deyrnas fawr dy hun,
bob gallu a dylanwad drwg
sydd yn anrheithio dyn.

Teyrnasa dros ein daear oll,
myn gael pob gwlad i drefn:
O adfer dy ddihalog lun
ar deulu dyn drachefn.

Gwna’n daear oll fel Eden gynt,
yn nefoedd fach i ni,
a bydded, tra bo’n ddaear mwy,
yn sanctaidd deml i ti.

R. J. DERFEL, 1824-1905

(Caneuon Ffydd 234)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 12, 2015