logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Llais fy Mugail Yw

Mi glywaf lais sy’n galw f’enaid aflan,
Gras a gwirionedd sy’n ei eiriau byw,
Mae’n fy ngwahodd i’w ddilyn Ef i’w gorlan,
Rwy’n ei adnabod, llais fy Mugail yw.

Cytgan:
Fy Mugail i, fy Mugail i,
fy Mugail i,
Rwy’n ei adnabod, llais –
llais fy Mugail i.

Pan fyddo’r nos yn ddu, a’r byd yn pwyso
A mi’n flinderog, llwythog dan fy mhwn,
Fe’m geilw ato’i hun – ei faich sydd ysgafn,
A’i iau ar f’ysgwydd, esmwyth yw mi wn.

Pan af ar goll, daw’r Bugail i fy ngheisio;
Er crwydro’n bell, fe ddychwel f’enaid gwan,
Ac ar ei ysgwydd gref ei hun fe’m cluda
Nes dod â mi i’w gorlan yn y man.

Fy Mugail Yw, ac ni bydd eisiau arnaf;
Mewn porfa fras yn dawel gorffwys caf;
Pa rhodiwn i hyd llwybrau dyffryn angau
Fy Mugail yw, ymddiried ynddo wnaf.

Geiriau: Dafydd M Job
Alaw : Billie Owens a Rhys Williams
Hawlfraint©2010

PowerPoint PowerPoint lliw PDF MP3