logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

I’th Eglwys, Arglwydd, rho fwynhau

I’th Eglwys, Arglwydd, rho fwynhau
y tywalltiadau nefol,
a grasol wyrthiau’r Ysbryd Glân
yn creu yr anian dduwiol.

Nid dawn na dysg ond dwyfol nerth
wna brydferth waith ar ddynion;
y galon newydd, eiddot ti
ei rhoddi, Ysbryd tirion.

Ti elli bob rhyw ddrwg ddileu
a’n creu i gyd o’r newydd;
yn helaeth rho yn awr i’n plith
dy fendith, Dduw’r achubydd.

Caed lluoedd eu haileni ‘nghyd
i fywyd glân yr Iesu,
ac ar ei ddelw, teulu’r ffydd
fo beunydd yn cynyddu.

ELFED, 1860-1953

(Caneuon Ffydd 569)