logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

I’r lladdfa

I’r lladdfa yn dy g’wilydd
Yr aethost fel oen.
Ac ar dy gefn y cludaist di fyd
O helbul a phoen.
Gwaedu, marw, gwaedu, marw.

Rwyt ti’n fyw, rwyt ti’n fyw,
Atgyfodaist! Haleliwia!
Yr holl nerth a’r gogoniant a roddwyd
Haleliwia, lesu i ti.

Ar doriad gwawr Mair Fadlen
A’i dagrau yn lli,
Yn ei thristwch fe glywodd dy lais
Yn ei galw hi.
Mair, Meistr, Mair, Meistr.

Ar ddeheulaw’r Tad nefol
O, Geidwad y byd,
Cyfiawnder a llawenydd mwy,
Fe’n prynaist mor ddrud,
Arglwydd, Arglwydd, Arglwydd, Arglwydd.

Cyfieithiad Awdurdodedig: Wyn G Roberts, Led like a lamb (You’re alive): Graham Kendrick
© 1983 ac yn y cyfieithiad hwn Thankyou Music/ Gwein. Gan worshiptogether.com songs
ac eithrio DU ac Ewrop, gwein. gan Kingsway Music (tym@kingsway.co.uk) Defnyddir trwy ganiatâd

(Grym Mawl 1: 95)

PowerPoint