logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Iôr Brenhinoedd

PENNILL 1:
Yn y twyllwch heb oleuni
A heb obaith oeddem ni
Nes y rhedaist ti o’r nefoedd
 thrugaredd yn dy wedd

(Cyf)lawni’r gyfraith a’r proffwydi
At yr wyryf daeth y Gair
Dod o orsedd y gogoniant
Lawr i grud oedd yn y llwch

CYTGAN:
Clod i’r Tad a chlod i’r Mab
Clod i’r Ysbryd tri yn un
Dduw gogoniant ‘Sblennydd Un
Iôr Brenhinoedd clod i ti am byth

PENNILL 2:
Dangos teyrnas sydd yn dyfod
A chymodi’r rhai sy ’ngholl
Ac i adfer creadigaeth
Fe wynebaist ti y groes

Ac ar awr dy brofedigaeth
Gwelaist ti i’r ochr draw
(a) deall dyma’n gwaredigaeth
Iesu marwaist trosom ni

PENNILL 3:
Ar y bore pan y codaist
Roedd y nef yn dal ei gwynt
Nes i’r garreg gael ei threiglo
Concrwyd angau gan yr Oen

Gan gyfodi’r meirw o’u beddau
A’r angylion yno’n syn
A phob enaid a ddaeth ato
Wedi’u hadfer yn y Tad

PENNILL 4:
Do fe anwyd eglwys Crist
Gyda fflam yr Ysbryd Glân
A gwirionedd hen efengyl
Ddim yn ildio nac yn wan

Trwy ei waed a thrwy ei Enw
Yn ei rhyddid rwyf yn rhydd
Achos cariad Iesu Grist
A wnaeth fy nghyfodi i

© 2019 Hillsong Music Publishing Australia
& Fellow Ships Music / So Essential Tunes (admin at EssentialMusicPublishing.com)
Cerddoriaeth a geiriau: Jason Ingram, Brooke Ligertwood & Scott Ligertwood
Cyfieithiad Cymraeg: Arwel E. Jones
CCLI # 7157408

Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.

PowerPoint
  • Rhys Llwyd,
  • September 9, 2020