logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Iesu, ‘r enw anrhydeddwn

Iesu, ’r enw anrhydeddwn,
Iesu, ’r enw folwn ni.
Mae’n enw sydd goruwch pob enw arall;
Datgan nef a daear oll
Fod Iesu’n wir Fab Duw.

Fe addolwn ni a’i ddyrchafu fry,
Canwn foliant iddo ynghyd.
Fe addolwn ni, a’i ddyrchafu fry,
Canwn foliant iddo drwy’r byd.

Iesu, ’r enw a addolwn,
Ynddo ymddiriedwn ni.
Ef ydyw Brenin y brenhinoedd,
Ac mae’r ddaear oll yn canu’r gân
Fod Iesu’n wir Fab Duw.

Iesu, sy’n llewyrchu cariad,
A thrugaredd Duw y Tad;
Fe ddaw yn ôl ryw ddydd yn ogoneddus,
A phob tafod a gyffesa
Iesu’n wir Fab Duw.

Cyfieithiad Awdurdodedig: Arfon Jones, Jesus is the name we honour (We will glorify): Phil Lawson-Johnson
© 1991 ac yn y cyfieithiad hwn Thankyou Music/
Gwein. gan worshiptogether.com songs ac eithrio DU ac Ewrop, gwein. gan Kingsway Music
tym@kingsway.co.uk Defnyddir trwy ganiatâd

(Grym Mawl 2: 75)

PowerPoint