logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Iesu yw’r Iôr – y gri sy’n atsain drwy y cread

Iesu yw’r Iôr!
– y gri sy’n atsain drwy y cread,
Disglair Ei rym, tragwyddol Air, ein Craig.
Gwir Fab ein Duw,
sy’n llenwi’r nefoedd â’i ogoniant,
Sy’n ein gwahodd i brofi’r Bara byw.

Iesu yw’r Iôr
– a’i lais sy’n cynnal y planedau,
Ond rhoes o’r neilltu goron nef o’i ras.
Iesu y dyn, fu’n golchi traed,
yn dwyn ein gofid,
Yn felltith wnaed er dwyn iachâd i ni.

Iesu yw’r Iôr
– mor ogoneddus wag yw’r beddrod!
Mae’r Brenin Cariad hwn
yn trechu’r bedd,
Talwyd y pris, drylliwyd cadwyni,
caed maddeuant,
A rhedwn ni i freichiau Duw ein Tad.

‘Iesu yw’r Iôr’
– gwaedd orfoleddus, llef o ofid,
Ar Ei ddyfodiad, a phob glin a blyg.
Pob llygad a phob calon
welant Ei ogoniant,
A’r Barnwr ddwg ei blant i’w cartref fry.

Jesus is Lord – the cry that echoes through creation, Stuart Townend & Keith Getty
Cyfieithiad awdurdodedig: Dafydd M. Job
© 2003 Thankyou Music / adm. by Kingsway Music

PowerPoint