logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Iesu, tyrd i’r canol

Iesu, tyrd i’r canol
Yn ein hoedfa ar y llawr,
Bydd yn hardd gytundeb
Wrth i’n llygaid gwrdd yn awr,
O Iesu, fe’th garwn,
felly down ynghyd,
Ein calonnau una nawr
a dryllia’n hofnau i gyd.

Atat ti y deuwn
O bob gwlad ar draws y byd,
Crist yw’r cariad rhyngom
Wrth in afael dwylo ’nghyd.
O Iesu, fe’th garwn, felly down ynghyd,
Ein calonnau una nawr
a dryllia’n hofnau i gyd.

(Pennill ychwanegol i’r Cymun)

Iesu, tyrd i’r canol
Wrth in dorri bara ’nghyd.
Una ni â’n gilydd,
Wrth i’n gofio d’aberth drud.
O Iesu, fe’th garwn, felly down ynghyd,
Ein calonnau una nawr
a dryllia’n hofnau i gyd.

Cyfieithiad Awdurdodedig: Catrin Alun Jesus, stand among us, Graham Kendrick
© 1977 ac yn y cyfieithiad hwn Thankyou Music/ Gwein. Gan worshiptogether.com songs
ac eithrio DU ac Ewrop, gwein. gan Kingsway Music (tym@kingsway.co.uk) Defnyddir trwy ganiatâd

(Grym Mawl 1: 87)

PowerPoint