logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Iesu tirion, gwêl yn awr

Iesu tirion, gwêl yn awr
blentyn bach yn plygu i lawr:
wrth fy ngwendid trugarha,
paid â’m gwrthod, Iesu da.

Carwn fod yn eiddot ti;
Iesu grasol, derbyn fi;
gad i blentyn bach gael lle,
drwy dy ras, yn nheyrnas ne’.

Carwn fod fel ti dy hun,
meddu calon ar dy lun;
addfwyn, tirion iawn wyt ti,
ysbryd cariad rho i mi.

Dysg im wneuthur heb nacâd
‘wyllys Duw, fy nefol Dad,
n’ad im ddigio Ysbryd Duw,
er d’ogoniant gad im fyw.

CHARLES WESLEY (Gentle Jesus, meek and mild), 1707-88, cyf. W O. EVANS, 1864-1936

PowerPoint