logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Iesu tirion, edrych arnaf

Iesu tirion, edrych arnaf
mewn iselder, poen a chur,
dyro im dy ddwyfol Ysbryd
a’i ddiddanwch sanctaidd, pur;
pan wyt ti yn rhoi dy ŵyneb
y mae llewyrch yn dy wedd
sy’n gwasgaru pob amheuaeth
ac yn trechu ofnau’r bedd.

Edrych arnaf mewn tosturi
pan fo cysur byd yn ffoi;
yng nghyfyngder profedigaeth
atat ti dy hun ‘rwy’n troi;
pan fo natur wan yn methu,
pan fo t’wyllwch o bob tu,
pan ddiffoddo lampau’r ddaear,
dyro lewyrch oddi fry.

LEWIS EDWARDS 1809-87

(Caneuon Ffydd 741)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 27, 2015