logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Iesu, mawr yw dy ras

Iesu, mawr yw dy ras
a mawr dy gariad ataf fi,
Gwn am fy holl feiau’i gyd,
ond parod wyt i faddau im.

Hon yw fy nghân o fawl i ti;
Clod i’r Duw byw a’i holl roddion drud.
Ti wnaeth gyffwrdd y galon hon
Waredwr ffyddlon.

Iesu, dal fi yn dynn
a gwared fi rhag drwg y byd.
Mi wn, pan ddaw pen y daith fod lle i mi yn Nheyrnas Dduw.

Ti sydd yn ffyddlon,
Tragwyddol ffyddlon.

Hon yw fy nghân o fawl i ti;
Clod i’r Duw byw a’i holl roddion drud.
Ti wnaeth gyffwrdd y galon hon
Waredwr ffyddlon.

Ti sydd yn ffyddlon,
Tragwyddol ffyddlon.

Brian Doerksen, Father I can’t explain, cyf. Natalie Drury
Hawlfraint © 1996 Mercy/Vineyard Publishing. Gweinyddir gan Copycare

(Grym Mawl 2: 27)

PowerPoint