logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Iesu, Iesu, ‘rwyt ti’n ddigon

Iesu, Iesu, ‘rwyt ti’n ddigon,
‘rwyt ti’n llawer mwy na’r byd;
mwy trysorau sy’n dy enw
na thrysorau’r India i gyd:
oll yn gyfan
ddaeth i’m meddiant gyda’m Duw.

Y mae gwedd dy ŵyneb grasol
yn rhagori llawer iawn
ar bob peth a welodd llygad
ar hyd ŵyneb daear lawn:
Rhosyn Saron,
ti yw tegwch nef y nef.

WILLIAM WILLIAMS 1717-91

(Caneuon Ffydd 320; Y Llawlyfr Moliant Newydd: 452)

PowerPoint Gwrando