logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Iesu, Iesu, Arglwydd fy nghân

Iesu, Iesu, Arglwydd fy nghân,
Ar d’alwad dyner cerddais yn rhydd;
Derbyn fy niolch yn newydd bob dydd,
Derbyn fy oes yn fawlgan i ti.

Iesu, Iesu, cymer fy oes:
Iesu, Iesu, rhoddaf i ti
Bopeth, pob awr, ti biau hwy oll:
Iesu fy Ngheidwad, ‘r eiddot wyf fi.

Iesu, Iesu, rho imi’r ddawn
O edrych ar eraill fel gwnaethost ti;
Gwna fi’n offeryn dy gariad di,
Nes bo fy nghân, bob nodyn, yn bur.

Sylvia Lawton
Cyf. Siôn Aled

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • November 10, 2015