logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Iesu, gwyddost fy nghystuddiau

Iesu, gwyddost fy nghystuddiau,
‘R wyt yn rhifo pob yr un;
Pob rhyw wradwydd, pob rhyw groesau,
Dioddefaist hwynt dy Hun;
Dal fi i fyny
Man bo ‘meichiau’n fwyaf trwm.

Er dy fod Di heddiw’n eistedd
Yn ngogoniant nef y nef,
Mewn goleuni cyn ddisgleiried
Na ellir nesu ato ef,
‘R wyt yn edrych
Ar d’anwylaf yn y byd.

William Williams, Pantycelyn

PowerPoint