logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Iesu Grist sydd yn ben

Iesu Grist sydd yn ben,
Holl gyflawnder ein Duw ynddo mae;
Ac fe’n geilw ni i’w ddilyn ef,
Trwy ei atgyfodiad mawr
Fe’n hachub yn awr.

Gwir ddelw’r Duw anweledig yw Ef,
Y cyntafanedig ydyw.
Gwir Fab y Tad Nefol a greodd bob peth;
Gorsedd a grym a’r holl awdurdodau cryf.

Iesu sy’n ben ac yn bod cyn pob peth;
Yn hwn mae’r oll yn cydsefyll.
Ef yw y cyntafanedig o blith
Y meirw oll, i flaenori ym mhob peth.

Fe ryngodd fodd Duw i’w gyflawnder
Breswylio yn llawn yn Iesu;
A thrwyddo ef mae’n cymodi pob peth;
Heddwch a gaed drwy’i waed ef ar Galfari.

Rhoddwyd i ni bob cyflawnder yng Nghrist,
Mae’n bryd ni ‘nawr ar y nefoedd.
Byddwn yn sanctaidd yng ngolwg y Tad
Difai a glân, a digerydd ger ei fron.

(Grym Mawl 2: 73)

David Lyle Morris: Jesus Christ Rules Supreme, Cyfieithiad Awdurdodedig: Hywel Rhys Edwards ac Arfon Jones
Hawlfraint © 1997 Tevita Music

PowerPoint