logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Iesu Grist, myfyriaf ar dy aberth di

Iesu Grist, myfyriaf ar dy aberth di –
Ildiaist ti bopeth a marw i mi.
Lawer tro, rhyfeddais i ti f’achub i –
Meddyliau fel hyn ddaw i’m cof,
Meddyliau fel hyn ddaw i’m cof.

Ac unwaith eto syllu wnaf
ar groes Calfari,
A sylweddoli dyfnder gras
dy gariad i mi.
Diolch i ti eto –
rhoddaf iti ‘mywyd yn llwyr.

Frenin Nef, mor ddyrchafedig ydwyt ti –
O flaen dy orsedd, ryw ddydd, plygaf i.
Clod i ti – tosturiaist at un gwael fel fi,
A moliant yn awr iti rhof,
Moliant yn awr iti rhof.

Cyfieithiad Awdurdodedig: Dafydd Timothy, Jesus Christ I think upon(Once Again): Matt Redman
© 1995 ac yn y cyfieithiad hwn Thankyou Music/
Gwein. gan worshiptogether.com songs ac eithrio DU ac Ewrop, gwein. gan Kingsway Music
tym@kingsway.co.uk Defnyddir trwy ganiatâd

(Grym Mawl 2: 72)

PowerPoint youtube
  • MLC_Admin,
  • January 1, 1970