logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Iesu, Geidwad bendigedig

Iesu, Geidwad bendigedig,
ffrind yr egwan a’r methedig,
tyner ydwyt a charedig;
rho dy ras yn nerth i ni.

Iesu, buost gynt yn faban
yn y llety tlawd, anniddan;
Brenin nef a daear weithian,
dirion Arglwydd, ydwyt ti.

Iesu, drosom buost farw
ar y croesbren creulon, garw:
dirfawr werth yr aberth hwnnw
egyr byrth y nef i ni.

Iesu, gwyddost ein meddyliau,
ein llawenydd a’n gofidiau;
rho dy ras i’n tywys ninnau
i’th wirionedd sanctaidd di.

Iesu da, bydd di’n arweinydd,
hwyr a bore, inni beunydd;
ac os daw tymhestlog dywydd
rho dy ras yn nerth i ni.

Percy Dearmer, 1867-1936 cyf. J. T. Jones, 1894- 1975 © Dafydd F. Jones

(Caneuon Ffydd: 393)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • January 18, 2016