logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Iesu, fy Ngwaredwr i

Iesu, fy Ngwaredwr i,
Mae dy lygaid hardd fel fflamau tân.
Iesu, rhof fy hun i ti;
Fe’th ddilynaf di i bob man.
‘Does neb drwy’r oesoedd maith
sy’n debyg i ti,
Mae’r oesoedd a’r blynyddoedd
yn dy law.
Alffa ac Omega, do fe’m ceraist,
Caf rannu tragwyddoldeb maith â thi.

‘Does dim hebot ti, Iesu,
Mae’r cwbl oll i ti,
Er dwyn clod i’th enw pur.
Nid er fy mwyn i,
Nid wy’n haeddu dim o gwbl;
Dim ond ti sydd Dduw,
Ac i’th ewyllys plygaf fi.

Cyfieithiad Awdurdodedig: Arfon Jones, Jesus, lover of my soul, Paul Oakley
© 1995 ac yn y cyfieithiad hwn Thankyou Music/
Gwein. gan worshiptogether.com songs ac eithrio DU ac Ewrop, gwein. gan Kingsway Music
tym@kingsway.co.uk.  Defnyddir trwy ganiatâd

(Grym Mawl 2: 76)

PowerPoint