logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Iesu ei Hunan yw fy mywyd

Iesu ei Hunan yw fy mywyd –
Iesu’n marw ar y Groes,
Y trysorau mwyaf feddaf
Yw ei chwerw angau loes;
Gwacter annherfynol ydyw
Meddu daear, da, na dyn;
Colled ennill popeth arall,
Oni enillir Di dy Hun.

Dyma ddyfnder o drysorau,
Dyma ryw anfeidrol rodd,
Dyma wrthrych ges o’r diwedd
Ag sy’n hollol wrth fy modd;
Nid oes syched arnaf mwyach
Am drysorau gwag y byd;
Popeth gwerthfawr a drysorwyd
Yn fy Mhrynwr mawr ynghyd.

Mi orffwysa f’enaid bellach
Ar yr annherfynol stôr,
Ac mi ganaf yn y dymestl
Ar y graig sydd yn y môr;
Dyna’r man na feiddia Satan,
Uffern ddofon fawr, na’r bedd,
Er eu dyfais faith, a’u rhuad,
Fyth derfysgu dim o’m hedd.

William Williams (1717-1791)
(Llawlyfr Moliant Newydd: 615)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • September 10, 2015