logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Iesu, difyrrwch f’enaid drud

Iesu, difyrrwch f’enaid drud
yw edrych ar dy wedd,
ac mae llythrennau d’enw pur
yn fywyd ac yn hedd.

A than dy adain dawel, bur
yr wy’n dymuno byw
heb ymbleseru fyth mewn dim
ond cariad at fy Nuw.

Melysach nag yw’r diliau mêl
yw munud o’th fwynhau,
ac nid oes gennyf bleser sydd,
ond hynny, yn parhau.

O cau fy llygaid rhag im weld
pleserau gwag y byd
ac imi wyro byth oddi ar
dy lwybrau gwerthfawr, drud.

‘Does gennyf ond dy allu mawr
i’m nerthu i fynd ymlaen;
dy iachawdwriaeth yw fy ngrym
a’m concwest i a’m cân.

WILLIAM WILLIAMS 1717-91

(Caneuon Ffydd 294; Y Llawlyfr Moliant Newydd: 46)

PowerPoint