logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Iesu, anfon weithwyr lu

Iesu, anfon weithwyr lu,
O, mae eu hangen hwy.
Mae’r tir yn barod i’w fedi,
Y caeau’n aeddfed mwy.

Ond Arglwydd cymer fi,
Iesu, o cymer fi.
Pwy a â drosot ti?
Pwy a â drosot ti?
Dyma fi nawr –
Af fi,
ie fi, Iôr,
Af fi.

O na welem Gymru’n troi
Yn dyrfa atat ti.
Iesu, ti all ein tanio
 grym dy Ysbryd Di.

Cytgan

Arglwydd synhwyrwn di ar waith
Yn cyffwrdd ni â’th rym;
Parod ydym i weithio,
I fynd heb oedi dim.

Cytgan

Cyfieithiad Awdurdodedig: Casi Tomos, Jesus, send more labourers, Chris Rolinson
Hawlfraint © 1988 ac yn y cyfieithiad hwn Thankyou Music/ Gwein. gan worshiptogether.com songs ac eithrio DU ac Ewrop, gwein. gan Kingsway Music (tym@kingsway.co.uk) Defnyddir trwy ganiatâd

(Grym Mawl 1: 86)

PowerPoint