logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Iddo Ef

Iddo Ef sydd yn gallu gwneud llawer mwy
na phopeth a ddeisyfwn neu ddychmygwn
trwy ei nerth sydd ar waith,
trwy ei nerth sydd ar waith
ynom ni, ynom ni.

Iddo Ef y bo’r gogoniant ynom ni
ac yng Nghrist Iesu y Meistr
o genhedlaeth i genhedlaeth,
hyd byth a hyd byth,
Amen, Amen.

Nerthol Un, fe addolwn y nerthol Un;
Ddoe, heddiw ac am byth
fe addolwn y nerthol Un.

Does dim bydd sy’n amhosibl i Dduw,
fe ganwn does dim byd sy’n amhosibl i Dduw,
fe ganwn does dim byd sy’n amhosibl i Dduw,
fe ganwn does dim byd sy’n amhosibl i Dduw.

Nerthol Un, fe addolwn y nerthol Un;
Ddoe, heddiw ac am byth
fe addolwn y nerthol Un.

(O Effesiaid 3:20-21)
Hawlfraint © 2010 Andy Hughes

PowerPoint PowerPoint lliw PDF MP3
  • MLC_Admin,
  • January 1, 1970