logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Iachawdwr dynol-ryw

Iachawdwr dynol-ryw,
Tydi yn unig yw
Fy Mugail da:
Mae angau’r groes yn llawn
O bob rhinweddol ddawn,
A ffrwythau melys iawn,
A’m llwyr iachâ.

Mae torf aneirif fawr
Yn ddisglair fel y wawr,
‘Nawr yn y nef –
Drwy ganol gwawd a llid,
A gwrth’nebiadau byd,
Ac angau glas ynghyd,
A’i carodd Ef.

Ni thâl pleserau byd,
Na phob teganau ‘nghyd,
Ddim i’m boddhau:
Y gwrthrych mwya’ erioed
O gariad ac o glod,
Sydd uwch neu is y rhod,
Wy’n ei fwynhau.

William Williams, Pantycelyn

(Y Llawlyfr Moliant Newydd: 222)

PowerPoint