logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

I ti, o Dad, fe roddwn ein clod

I ti, o Dad, fe roddwn ein clod,
Ti yw ein craig, O! ein Duw.
Na foed i ni fyth gefnu arnat,
Na foed i’r gelyn fyth ein gorchfygu ni.

Byth ni ddiffygia y sawl
A bwysa mewn ffydd ’not ti.
Mae’n llygaid ni arnat ti,
O! Dduw.
Castella, gwarchoda,
Noddfa wyt i ni.
I ti o Dad, rhoddwn glod,
I ti o Dad, rhoddwn glod.

Dangos dy ffyrdd a dysg ni i’w rhodio.
Tywys ni ’mlaen fugail da.
Can’s ti yw’n Duw, ti yw ein Prynwr.
Llawn yw ein ffiol
pob diwrnod ’rym yn byw.

O cofia Dad dy faddeuant rhad,
Gostiodd mor ddrud – aberth Crist.
Maddau i ni ein llu pechodau
A’n hafradlonedd trist.

O cofia ni yn haeddiant Calfari,
Yn haeddiant Calfari,
Can’s Duw cariad ydwyt ti.

To you, O Lord: Graham Kendrick, cyfieithiad awdurdodedig: Alun Tudur
©1997 Make Way Music

(Grym Mawl 2: 137)

PowerPoint
  • MLC_Admin,
  • January 1, 1970