logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

I ti dymunwn fyw, O Iesu da

I ti dymunwn fyw, O Iesu da,
ar lwybrau esmwyth oes, dan heulwen ha’:
neu os daw’r niwl i guddio’r wybren las
na ad i’m hofnau atal gwaith dy ras.

Yn fwy bob dydd i ti dymunwn fyw
gan wneud dy waith yn well, gwaith engyl yw;
a gad i mi, wrth ddringo’u hysgol hwy,
gael beunydd weld o’th degwch lawer mwy.

Os rhaid ymwadu, dyro ras i mi
rhag cadw dim yn ôl oddi wrthyt ti:
na chaed nac aur na chlod na swyn y byd
dy atal, Iesu da, i lenwi ‘mryd.

Ni allaf roddi fel y rhoddaist im;
‘rwy’n gweld, yng ngolau’r groes, fy ngorau’n ddim:
ond at y groes, er hynny, deuaf fi,
i’m rhoi fy hunan i’th ewyllys di.

Fy hunan oll i ti, O Iesu da,
er dyfod cwmwl du neu heulwen ha’;
o fore oes hyd nes i’r cyfnos ddod
rho im y fraint o fyw bob dydd i’th glod.

ELFED, 1860-1953

(Caneuon Ffydd 757)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • April 30, 2015