logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

I orwedd mewn preseb

I orwedd mewn preseb rhoed Crëwr y byd,
nid oedd ar ei gyfer na gwely na chrud;
y sêr oedd yn syllu ar dlws faban Mair
yn cysgu yn dawel ar wely o wair.

A’r gwartheg yn brefu, y baban ddeffroes,
nid ofnodd, cans gwyddai na phrofai un loes.
‘Rwyf, Iesu, ‘n dy garu, O edrych i lawr
a saf wrth fy ngwely nes dyfod y wawr.

Tyrd, Iesu, i’m hymyl, ac aros o hyd
i’m caru a’m gwylio tra bwyf yn y byd;
bendithia blant bychain pob gwlad a phob iaith,
a dwg ni i’th gwmni ar derfyn ein taith.

ANAD. efel. E. CEFNI JONES, 1871-1972

(Caneuon Ffydd 450)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • April 27, 2015