logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

I Dad y trugareddau’i gyd

I Dad y trugareddau’i gyd
Rhown foliant holl drigolion byd;
Llu’r nef moliennwch, bawb ar gân,
Y Tad, a’r Mab, a’r Ysbryd Glân.

Gogoniant fo i’n Tad ni,
Gogoniant fo i’r Mab,
Gogoniant fo i’r Ysbryd
I dragwyddoldeb mad.
“Teilwng yw’r Oen”, yw’r gân o’r nef
Dyrchafwn Ef bob un,
“Teilwng yw’r Oen” yw’n hateb ni
Bu farw er ein mwyn.

(Grym Mawl 2: 112)

Andy Piercy a Dave Clifton: Praise God from whom all blessings flow,
Cyfieithiad Awdurdodedig: Arfon Jones
Hawlfraint © 1993 I. Q. Music

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • June 22, 2015