logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

I blith y ddau neu dri

I blith y ddau neu dri
yr awron tyred di,
ein gwendid gwêl, rho inni sêl,
O Dad, ymwêl â ni:
cryfha ein ffydd yn ôl y dydd,
Breswylydd mawr y berth,
ein llef erglyw, O Iôr, ein llyw,
yr esgyrn gwyw gwna eto’n fyw,
O Dduw, bydd inni’n nerth.

Ein cri, ein Tad, a’n cân
yw am yr Ysbryd Glân,
O tyrd yn glau i’n bywiocáu,
O Dduw’r tafodau tân;
ein tirion Dad, O rho i’n gwlad
ddeffroad megis cynt,
y cynnwrf boed wrth sŵn dy droed,
tyrd yn ddi-oed i gadw d’oed,
a doed dy ddwyfol wynt.

T. R. JONES © E. M. Jones. Defnyddiwyd drwy ganiatâd.

(Caneuon Ffydd: 587)

PowerPoint