logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Hyn yw ‘mhleser, hyn yw f’ymffrost

Hyn yw ‘mhleser, hyn yw f’ymffrost,
Hyn yw ‘nghysur yn y byd –
‘Mod i’n caru’r addfwyn Iesu;
Dyna ‘meddiant oll i gyd:
Mwy yw nhrysor
Nag a fedd y byd o’r bron.

Ac ni allaf fyth fynegi
Ped anturiwn, tra fawn byw,
Pa mor hyfryd, pa mor felys,
Pa mor gryf, ei gariad yw:
Fflam ddiderfyn
Ddaeth o ganol nef i lawr.

Derfydd awyr, derfydd daear,
Ac a grewyd is y ne’,
Derfydd haul a sêr a lleuad
Daw tywyllch yn eu lle;
Fyth ni dderfydd
Canu iachawdwriaeth gras.

William Williams, Pantycelyn

(Y Llawlyfr Moliant Newydd: 456)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • June 25, 2015