logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Hwn ydyw’r dydd o ras ein Duw

Hwn ydyw’r dydd o ras ein Duw,
yr amser cymeradwy yw;
brysiwn i roi’n calonnau i gyd
i’r hwn fu farw dros y byd.

Gwelwch yr aberth mawr a gaed,
mae gobaith ichwi yn ei waed;
O dowch i mewn heb oedi’n hwy,
i wledda ar haeddiant marwol glwy’.

Dowch, bechaduriaid, dowch i’r wledd,
mae’r Iesu’n cynnig ichwi hedd:
mae croeso i bawb i ddod at Dduw,
mae’r alwad i holl ddynol-ryw.

CHARLES WESLEY, 1707-88, cyf. JOHN HUGHES, 1776-1843

(Caneuon Ffydd 10)

PowerPoint
PPt Sgrîn lydan