logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Hosanna, Haleliwia, fe anwyd Brawd i ni

Hosanna, Haleliwia,
fe anwyd Brawd i ni;
fe dalodd ein holl ddyled
ar fynydd Calfarî;
Hosanna, Haleliwia,
Brawd ffyddlon diwahân;
Brawd erbyn dydd o g’ledi,
Brawd yw mewn dŵr a thân.

Brawd annwyl sy’n ein cofio
mewn oriau cyfyng, caeth;
Brawd llawn o gydymdeimlad
ni chlywyd am ei fath;
Brawd cadarn yn y frwydyr;
fe geidw’i frodyr gwan;
yn dirion dan ei adain
fe ddaw â’r llesg i’r lan.

DAFYDD WILLIAM, 1721?-94

(Caneuon Ffydd 327)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 13, 2015