logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Hosanna fyth! Mae gennyf Frawd

Hosanna fyth! Mae gennyf Frawd
sy’n cofio’r tlawd a’i gŵynion,
profedig wyf o’r dwyfol hedd
a’i annwyl wedd mor dirion.

Fy nghalon wan, mae un a ŵyr
yn llwyr dy holl anghenion,
ac ymhyfrydu mae o hyd
i ddwyn it ddrud fendithion.

O tyrd yn awr, Waredwr da,
teyrnasa ymhob calon,
ym mywyd pawb myn orsedd wen
ac ar dy ben bo’r goron.

MORGAN A. JONES, 1876-1944

(Caneuon Ffydd 298)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 13, 2015