logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Hollalluog, nodda ni

Hollalluog, nodda ni,
cymorth hawdd ei gael wyt ti;
er i’n beiau dy bellhau,
agos wyt i drugarhau;
cadw ni o fewn dy law,
ac nid ofnwn ddim a ddaw;
nid oes nodded fel yr Iôr,
gorfoledded tir a môr!

Hollalluog, nodda ni,
trech na gwaethaf dyn wyt ti;
oni fuost inni’n blaid
ymhob oes ac ymhob rhaid?
Cofia’r tywys arnom fu,
cofia’r enw arnom sy;
nid oes nodded fel yr Iôr,
gorfoledded tir a môr!

Hollalluog, nodda ni,
nerth ein bywyd ydwyt ti;
cadw gymod yn ein tir,
cadw gariad at y gwir;
cadarn fo dy law o’n tu,
cryfach na banerog lu;
nid oes nodded fel yr Iôr,
gorfoledded tir a môr!

EIFION WYN, 1867-1926

(Caneuon Ffydd 213)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 12, 2015