logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Hoffi ‘rwyf dy lân breswylfa

Hoffi ‘rwyf dy lân breswylfa,
Arglwydd, lle’r addewaist fod;
nid oes drigfan debyg iddi
mewn un man o dan y rhod.

Teml yr Arglwydd sy dŷ gweddi,
lle i alw arnat ti;
derbyn dithau ein herfyniau
pan weddïom yn dy dŷ.

Hoffi ‘rwyf dy lân fedyddfan
lle mae’r Ysbryd oddi fry
yn bendithio’r gwan aelodau
pan dderbynnir hwynt i’th dŷ.

Hoffi ‘rwyf dy allor sanctaidd,
yno cawn gysuron hael,
bara’r bywyd, ymborth nefol
inni, bechaduriaid gwael.

Hoffi ‘rwyf wir air y bywyd,
tystio mae am wlad yr hedd
lle mae gwynfyd yn ddiderfyn
i’w fwynhau tu draw i’r bedd.

Hoffi ‘rwyf ddatseinio moliant
yn dy dŷ ag uchel lef
Arglwydd grasol, gwna ni’n addas
i’th glodfori yn y nef.

WILLIAM BULLOCK, 1798-1874 a HENRY W BAKER, 1821-77 (We love the place O God)
cyf. NICANDER, 1809-74

(Caneuon Ffydd 622)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 25, 2015