logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Hoff gennym, Dduw, y tŷ

Hoff gennym, Dduw, y tŷ
Lle mae dy enw mawr,
Ac yma profwn ni
Lawenydd mwya’r llawr.

Tŷ gweddi ydyw ef,
Lle daw dy blant ynghyd,
A thithau, Dduw y nef,
Wyt yn ein plith o hyd.

Hoff gennym lyfr ein Tad,
Sydd yn cyhoeddi hedd,
A chymorth yn y gad,
A bywyd hwnt i’r bedd.

Hoff gennym gân y llawr
Am ei drugaredd ef,
Hiraethwn am yr awr
Cawn chwyddo cân y nef.

O! Arglwydd, dyro hedd,
A gras i’th garu di,
Nes caffael gweld dy wedd
Yng nghwmni’r saint sydd fry.

William Bullock, (1798-1874) a Henry W.Baker, (1821-77)
Cyf. Ap Ceredigion, (1870-1948)

PowerPoint