logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Henffych iti, faban sanctaidd

Henffych iti, faban sanctaidd,
plygu’n wylaidd iti wnawn
gan gydnabod yn ddifrifol
werth dy ddwyfol ras a’th ddawn;
O ymuned daearolion
i dy ffyddlon barchu byth,
gyda lluoedd nef y nefoedd,
yn dy lysoedd, Iôn di-lyth.

Henffych iti, faban serchog,
da, eneiniog, ein Duw ni,
rhaid in ganu iti’n uchel
ac, ein Duw, dy arddel di:
ein Gwaredwr a’n Hiachawdwr
wyt, a’n dyddiwr gyda’th Dad,
ac am hynny taenwn beunydd
iti glodydd drwy ein gwlad.

Wele seren deg yn arwain
doethion dwyrain at dy draed,
aur a thus a myrr aroglus,
rhoddion costus iti gaed;
tywysogion a ymgrymant
ac addolant di, O Dduw,
at y Seilo pobloedd ddeuant,
gwelant dy ogoniant gwiw.

Bendigedig yn dragywydd,
ti yw’n Llywydd a’n Duw llad;
iti’n ufudd yr ymgrymwn
ac y rhoddwn bob mawrhad;
ti a wnaethost ryfeddodau
eang barthau’r nef uwch ben,
ac ni ganwn it ogoniant,
clod a moliant byth, Amen.

BARDD DU MȎN, 1807-52

(Caneuon Ffydd 444)

PowerPoint