logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Henffych i enw Iesu gwiw

Henffych i enw Iesu gwiw,
syrthied o’i flaen angylion Duw;
rhowch iddo’r parch, holl dyrfa’r nef:
yn Arglwydd pawb coronwch ef.

Chwychwi a brynwyd drwy ei waed,
plygwch yn isel wrth ei draed;
fe’ch tynnodd â thrugaredd gref:
yn Arglwydd pawb coronwch ef.

Boed i bob llwyth a phob rhyw iaith
drwy holl derfynau’r ddaear faith
gydganu’n llafar iawn eu llef:
yn Arglwydd pawb coronwch ef.

Er bod eu beiau’n amal iawn
mae ganddo iachawdwriaeth lawn;
eu cannu’n wyn wna Brenin nef:
yn Arglwydd pawb coronwch ef.

EDWARD PERRONET (All hail the power of Jesus’ name), 1726?-92 [hefyd cyfieithad arall, Caneuon Ffydd 235: Dyrchafer enw Iesu cu]
cyf. 1, 2, 3 WILLIAM GRIFFITHS, 1777-1825, cyf.4 TITUS LEWIS, 1773-1811

(Caneuon Ffydd 304)

PowerPoint