logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Helaetha derfynau dy deyrnas

Helaetha derfynau dy deyrnas
a galw dy bobol ynghyd,
datguddia dy haeddiant anfeidrol
i’r eiddot, Iachawdwr y byd;
cwymp anghrist, a rhwyga ei deyrnas,
O brysied a deued yr awr,
disgynned Jerwsalem newydd
i lonni trigolion y llawr.

Eheda, Efengyl, dros ŵyneb
y ddaear a’r moroedd i gyd,
a galw dy etholedigion
o gyrrau eithafoedd y byd;
O brysia’r cyfarfod heb lygredd
na rhyfel na chystudd na phoen,
dydd Jwbil yr etholedigion
a chydetifeddion â’r Oen.

MORGAN RHYS, 1716-79

(Caneuon Ffydd 264)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 13, 2015