logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Heddiw, a yw’n wir

Heddiw, a yw’n wir
Y gall gweddi’r gwan
Roi i’r ddaear law,
Chwalu gwledydd mawr?
Dyna’r gwir, ac rwy’n ei gredu;
Rwy’n byw er dy fwyn.

Ydy’, mae yn wir.
Fe all gweddi wan
Godi’r meirw cudd,
Rhoddi’r dall yn rhydd.
Dyna’r gwir ac rwy’n ei gredu,
Rwy’n byw er dy fwyn.

Byddaf yn un,
Un sy’n gwneud gwahaniaeth yn fy ngwlad.
Byddaf yn un,
Un sy’n rhoi gwirionedd i rai’n rhad.
Safaf, yn hyf, rhedaf yn gryf at fynwes Duw,
At fynwes Duw, eto, at fynwes Duw,
At fynwes Duw, eto.

Heddiw, mae yn wir:
Pan saif pobl Dduw
Gyda’i ffydd ar dân,
Gyda’r gwir o’i blaen,
Gwelwn wyrthiau mawr,
Clywn angylion nef
Wrth i’r tân o’n mewn
Greu ei hanes Ef.

Dyna’r gwir, ac rwy’n ei gredu,
Rwy’n byw er dy fwyn.

Is it true today,(History maker) Martin Smith, cyfieithiad awdurdodedig: Tudur Hallam
© 1996 Curious? Music UK

(Grym Mawl 2: 70)

PowerPoint
  • MLC_Admin,
  • January 1, 1970