logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Gyda ti

Pennill 1
Yn ddwfn dan wyneb
Fy nychymyg sy’n pryderu
Geilw rhyw heddwch
Sydd ar gael yn neb ond Ti
Ac mae yn golchi
Dros f’amheuaeth a’m hamherffeithrwydd
Iesu, dy gwmni
Ydy cysur f’enaid i

Corws
Does unman yn well gen i
pan Ti’n canu drosof i
Yma dw’i am aros ‘da Ti
Ar goll (‘n) dy ddirgelwch Di
Fe’m ceir yn dy gariad Di
Yma dw’i am aros ‘da Ti

Pennill 2
Yma’n y disgwyl
Wna’i ddim poeni am yfory
(Dim) rhaid canolbwyntio
Ar beth sydd tu hwnt i mi
Gyda’m holl sylw
Ar y foment a’i rhyfeddod
Iesu, dy gwmni
Ydy cysur f’enaid i

Corws

Pont (X3)
Boed i bob dim wyf i
Fynd ar goll ym mhwy wyt Ti
O’r gogoniant yn dy gwmni
Beth mwy allwn geisio?

Corws

Gyda ti
With you (Chris Brown | Steven Furtick | Tiffany Hudson)
Cyfieithiad awdurdodedig Arwel E. Jones a Lowri Jones
© Music by Elevation Worship Publishing (Gwein. gan Essential Music Publishing LLC)

Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.

PowerPoint
  • Rhys Llwyd,
  • September 29, 2021