logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Gwynt ffres

Pennill 1
Ysbryd Glân, wynt mor gryf
Tân fy Nuw, cyffwrdd fi
Ysbryd Glân, anadla arnom ni

Pennill 2
Rhaid troi yn ôl, edifarhau
Fflam diwygiad mygu mae
Wynt fy Nuw, rho dy dân i ni

Cytgan 1
Mae angen gwynt ffres
Persawr y nefoedd
Tywallt D’Ysbryd nawr
Tywallt D’Ysbryd nawr

Pennill 3
Calonnau sy’n dy ofni Di
Goethwyd yn eu gwaith a’u ffydd
Tyrd cryfha yr hyn sy’ eto ar ôl

Pennill 4
Dy eglwys sydd yn olau i’r byd
Llewyrch dinas ddisglair fry
Doed dy deyrnas Di yw’n gweddi ni

Cytgan 2
Mae angen gwynt ffres
Persawr y nefoedd
Tywallt D’Ysbryd nawr
Tywallt D’Ysbryd nawr
Eneiniad mor sanctaidd
A phŵer dy gwmni
Tywallt D’Ysbryd nawr
Tywallt D’Ysbryd nawr

Tag
Tywallt D’Ysbryd nawr
Tywallt D’Ysbryd nawr
Tywallt D’Ysbryd nawr
Tywallt D’Ysbryd nawr

Pont
Boed i’r rhai sy’n rhydd
Ddwyn proffwydol gân
(Fe) glywn sŵn y gwynt
’n chwythu, chwythu, chwythu
Symud gyda’n clod
Daw dy blant â mawl
(Fe) glywn sŵn y gwynt
’n chwythu, chwythu chwythu

Gwynt ffres
Fresh Wind (Matt Crocker, Ben Fielding, Brooke Ligertwood a David Ware)
Cyfieithiad awdurdodedig Arwel E. Jones
©2020 Hillsong Publishing Australia
CCLI # 7175908

Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.

PowerPoint
  • Rhys Llwyd,
  • September 29, 2021