logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Gwyn a gwridog, hawddgar iawn

Gwyn a gwridog, hawddgar iawn,
yw f’Anwylyd;
doniau’r nef sydd ynddo’n llawn,
peraidd, hyfryd:
daear faith nac uchder nef
byth ni ffeindia
arall tebyg iddo ef
Halelwia!

Ynddo’i hunan y mae’n llawn
bob trysorau:
dwyfol, berffaith, werthfawr Iawn
am fy meiau;
gwir ddoethineb, hedd a gras
gwerthfawroca’,
nerth i hollol gario’r maes:
Halelwia!

Dyma sylfaen gadarn, gref
drwy fy mywyd;
credu, ac edrych arno ef,
yw fy ngwynfyd;
ynddo bellach drwy bob pla
y gobeithia’;
ac mewn rhyfel canu wna’:
Halelwia!

WILLIAM WlLLIAMS, 1717-91

(Caneuon Ffydd 358; Y Llawlyfr Moliant Newydd: 395)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 5, 2015